Trysorydd
Mae rôl y Trysorydd yn rôl allweddol sydd â chyfrifoldeb am reoli cyfrifon a chyllid y clwb.
Sut byddwch yn elwa:
- Ymdeimlad o gyflawni, boddhad a rhoi’n ôl
- Rôl allweddol yn eich cymuned
- Cyfarfod llawer o bobl o wahanol gefndiroedd
- Cyfle posib i ddatblygu gyrfa / gwella cyflogadwyedd
- Potensial am hyfforddiant a chymwysterau newydd
- Mewn rôl lle gallwch chi helpu i wella sefyllfa ariannol y clwb
I bwy fyddaf yn atebol?
- Y Cadeirydd
Am bwy fyddaf yn gyfrifol?
- Casglwr/wyr ffioedd gemau / hyfforddi ac ysgrifennydd codi arian y clwb
Yn ddelfrydol, bydd disgwyl i chi fod yn berson â’r nodweddion canlynol:
- Trefnus iawn – gallu diweddaru cofnodion ariannol yn gyson
- Manwl iawn wrth drin arian a sieciau
- Eithriadol onest
- Gallu ateb cwestiynau o natur ariannol mewn cyfarfodydd
Beth fyddwch yn ei wneud?
- Gofalu am gyllid y clwb
- Cadw cofnodion ysgrifenedig manwl o bob cyfrif a sicrhau bod y clwb yn gweithredu oddi mewn i’w gyllideb flynyddol
- Mynychu cyfarfodydd y Pwyllgor a’r CCB
- Dal cyfrif banc yn enw’r clwb
- Gweithredu fel prif lofnodwr cyfrif y clwb (a phenodi tri arall fel y cytunwyd gan Bwyllgor y Clwb)
- Paratoi mantolen flynyddol a thaflenni elw a cholled ar gyfer y CCB
- Casglu tanysgrifiadau a’r holl arian sy’n ddyledus i’r sefydliad
- Sicrhau bod y clwb yn aelod o’r Corff Rheoli Cenedlaethol a’r gynghrair (cynghreiriau) a gweithio gyda’r Ysgrifennydd i gofrestru chwaraewyr
- Cadw cofnodion diweddar o’r holl drafodion ariannol
- Sicrhau bod yr holl arian parod a’r sieciau’n cael eu rhoi yn y banc yn brydlon
- Talu biliau a chofnodi gwybodaeth, sicrhau bod arian yn cael ei wario’n briodol
- Rhoi derbynebau am yr holl arian a dderbynnir a chofnodi’r wybodaeth hon
- Adrodd yn ôl yn rheolaidd i’r pwyllgor ac yn y CCB ar sefyllfa ariannol y clwb
- Paratoi a threfnu datganiad diwedd blwyddyn o gyfrifon i’w harchwilio
- Helpu i baratoi a chyflwyno unrhyw ddogfennau statudol gofynnol (e.e. ffurflenni TAW, Talu Wrth Ennill ac Yswiriant Gwladol, adroddiadau cymorth grant)
- Hyd yn oed os yw’r dyletswyddau hyn yn cael eu dirprwyo i swyddog proffesiynol, y Trysorydd sy’n gyfrifol yn y pen draw. Y Trysorydd ddylai sicrhau bod unrhyw waith a gaiff ei ddirprwyo’n cael ei wneud yn briodol.
Faint o amser fydd hyn yn ei gymryd?
Tua 2 i 3 awr yr wythnos, ond bydd hyn yn dibynnu ar natur eich clwb/sefydliad chwaraeon.