Y Wasg a’r Cyfryngau ar gyfer Clybiau Chwaraeon
Os ydych chi’n breuddwydio am hawlio’r penawdau a hybu eich clwb chwaraeon yng Nghymru ymhlith miloedd o bobl, bydd rhaid i chi wneud eich gwaith cartref. Wrth lwc i chi, rydyn ni wedi llunio rhestr o gyngor doeth el bod gennych chi’r cyfleoedd gorau i hybu eich sefydliad yn llwyddiannus.
Heb ysgrifennu datganiad i’r wasg o’r blaen? Dim problem. Mae gennym ni ganllaw i’ch dysgu chi sut i fformatio eich datganiad, beth i’w gynnwys ynddo, a pha wybodaeth ychwanegol ddylid ei chynnwys.
Fel help ac arweiniad, mae Chwaraeon Cymru wedi creu pecyn adnoddau i helpu i hybu eich clwb. Mae’n cynnwys llawer o wybodaeth ddefnyddiol, fel esiampl o Ddatganiad i’r Wasg.
Fel dewis arall, cysylltwch a’n tîm ni drwy drydar @ClubSolWales.