Pobl yn eich clwb
Cofiwch fod miloedd o bobl ar hyd a lled ein gwlad wych ni’n rhoi eu hamser am ddim i hyfforddi, golchi cit, rheoli timau, cadeirio cyfarfodydd a gwneud yr holl swyddi eraill sydd angen eu gwneud mewn clwb prysur. A pham? Fel bod eraill yn cael cyfle i gymryd rhan mewn chwaraeon.
Felly mae’n hanfodol ein bod ni’n edrych ar ôl ein gwirfoddolwyr chwaraeon presennol a’r rhai a ddaw i wirfoddoli yn y dyfodol. Rhaid cofio bod iechyd ein cenedl ni yn eu dwylo nhw!
Mae Chwaraeon Cymru, ochr yn ochr â’r sector chwaraeon yng Nghymru, wedi datblygu cyfres o egwyddorion sy’n datgan beth rydyn ni i gyd eisiau ei gyflawni gyda gwirfoddoli mewn chwaraeon yng Nghymru.
Yr enw ar y rhain yw egwyddorion Rhoi i Elwa:
- Mae gwirfoddolwyr yn gwybod beth yn union a ddisgwylir ganddyn nhw
- Mae gwirfoddolwyr yn cael eu gwerthfawrogi, eu datblygu a’u cefnogi
- Mae’r lles i’r ddwy ochr o wirfoddoli’n glir i bawb
Ond y gweithredoedd, ac nid y geiriau, sy’n gwneud gwahaniaeth,. Dweud ‘Diolch yn Fawr’ syml i ddangos i rywun ei fod yn cael ei werthfawrogi, neu sgwrs ‘ydi popeth yn iawn?’ gyda’r gwirfoddolwr sydd fel pe bai’n gwneud popeth bron.
Felly sut byddwch chi’n gweithredu heddiw?