CyllidBenthyciadau
CronfaBenthyciadauEiddo
Mae’r gronfa ar gael drwy Fanc Unity Trust mewn partneriaeth â WCVA. Mae’r Gronfa’n sicrhau bod £30 miliwn ar gael tan 2018 i helpu sefydliadau i gyllido eiddo newydd neu adnewyddu eiddo presennol. Mae gwasanaethau prisio a chyfreithiol wedi cael eu trefnu am ffi ffafriol ar gyfer ymgeiswyr ar sail ddewisol. I drafod hyn, cysylltwch â Matthew Brown neu Alun Jones ar e-bost neu ffoniwch 0800 2888 329.
WCVA
Mae WCVA yn cynnig Cronfa Buddsoddi Mewn Cymunedau. Mae’r ffocws ar ardaloedd cydgyfeirio, sef Ynys Môn, Blaenau Gwent, Caerffili, Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Conwy, Sir Ddinbych, Gwynedd, Merthyr Tudful, Castell-nedd Port Talbot, Sir Benfro, Rhondda Cynon Taf, Abertawe a Thorfaen
Cronfa Benthyciadau Micro-fusnesau Cymru
Dyma fenthyciad gan Lywodraeth Cymru drwy ‘Cyllid Cymru’, i gefnogi mentrau bychain a chanolig. Mae £1 miliwn wedi cael ei glustnodi ar gyfer mudiadau’r trydydd sector sydd eisiau datblygu eu gweithgareddau cynhyrchu refeniw. I drafod hyn, anfonwch e-bost at Matthew Brown neu Alun Jones neu ffoniwch 0800 2888 329.