Gweithdai Hyfforddi
Mae Chwaraeon Cymru yn cynnig amrywiaeth o Weithdai Hyfforddi yhSports Coach UK ar gyfer clybiau, cyrff rheoli a sefydliadau eraill, i ddatblygu eu hyfforddwyr a’u gweithlu gwirfoddol.
Mae’r dudalen yma’n darparu gwybodaeth ddefnyddiol am sut gall eich hyfforddwyr a’ch gwirfoddolwyr ymgymryd â hyfforddiant DPP mewn gweithdai sydd wedi’u trefnu ymlaen llaw neu cewch drefnu eich digwyddiad eich hun. Defnyddiwch yr adnoddau sydd ar gael i ateb unrhyw gwestiynau sydd gennych chi.
Gweld y gweithdai hyfforddi diweddaraf
Os ydych chi’n chwilio am gyfleoedd DPP ar gyfer eich hyfforddwyr a’ch gwirfoddolwyr, edrychwch ar ein calendr digwyddiadau i weld y gweithdai sy’n cael eu cynnal ledled Cymru. I archebu lle ar un o’r cyrsiau hyn, rhaid i chi gysylltu â’r trefnydd sydd wedi’i enwi ar gyfer y digwyddiad rydych chi wedi’i ddewis.
Trefnu eich gweithdy eich hun
Os oes gennych chi nifer fawr o hyfforddwyr a gwirfoddolwyr sydd angen hyfforddiant DPP, beth am archebu eich gweithdy eich hun? Y cyfan sydd raid i chi ei wneud yw nodi dyddiad a lleoliad ar gyfer eich gweithdy ac wedyn cysylltu â Chwaraeon Cymru, a fydd yn gallu helpu gyda dod o hyd i diwtor lleol ar gyfer eich cwrs.
I archebu eich gweithdy pwrpasol eich hun:
- Nodwch ddyddiad a lleoliad rydych chi’n eu ffafrio
- Llenwch a chyflwynwch y ffurflen archebu gweithdy
- Llenwch a chyflwynwch restr wirio’r lleoliad os nad yw’r lleoliad wedi cael ei ddefnyddio o’r blaen
- Bydd Chwaraeon Cymru yn neilltuo tiwtor ac yn anfon cadarnhad o’r archeb
- Bydd Chwaraeon Cymru yn cysylltu â’r trefnydd cyn y gweithdy i wirio’r gofynion o ran adnoddau a bydd yn anfon tystysgrifau ymlaen llaw
- Ar ôl cwblhau’r gweithdy, bydd y tiwtor yn rhoi tystysgrifau i’r ymgeiswyr ac yn anfon y gofrestr a’r ffurflenni gwerthuso yn ôl i Chwaraeon Cymru.
Cysylltiadau Allweddol:
I archebu gweithdai, anfonwch y ffurflenni archebu i: communitysport.courses@sport.wales
Dogfennau Defnyddiol: