Llifoleuadau
Mae llifoleuadau’n gallu cynyddu’r defnydd o gyfleuster, yn enwedig dros fisoedd y gaeaf.
Mae gan rai chwaraeon ofynion penodol o ran lefelau goleuo (y cyfeirir atynt yn gyffredin fel lefelau ‘Lux’), er mwyn galluogi i hyfforddiant neu gemau gael eu cynnal yn ddiogel. Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar wefan Sport England.
Edrychwch sut mae Clwb Tennis Trefaldwyn wedi datblygu llifoleuadau, diolch i grant gan Chwaraeon Cymru, gan alluogi’r clwb i ehangu a chynnig mwy o gyfleoedd i chwarae.