Swyddogion
Heb ddyfarnwr neu swyddog, does dim gêm. Heb feirniad neu swyddog cadw amser, does dim twrnamaint.
Y bobl yma yw’r swyddogion technegol ar y cae neu’r cwrt sy’n gwneud yn siŵr bod cystadleuaeth ddiogel a theg yn digwydd ac yn helpu’r chwaraewyr i fwynhau eu camp.
Mae llawer o swyddogion yn dechrau arni drwy gael eu hannog i helpu yn eu clwb lleol. Dylai clybiau roi eu swyddogion mewn cysylltiad â’r Corff Rheoli Cenedlaethol fel eu bod yn gallu cofrestru ar gyfer cwrs hyfforddi addas a chael y cyngor maent ei angen os ydynt yn dymuno symud ymlaen gyda’u hyfforddiant.
I gael rhagor o wybodaeth, ewch i http://www.sportsofficialsuk.com/ neu http://www.sportsofficialsworldwide.com/