AAA
'Help i Glybiau a Gwirfoddolwyr Chwaraeon yng Nghymru '

Chairperson

Chairperson

Mae’r Cadeirydd mewn unrhyw sefydliad yn rôl hanfodol ac mae hyn yn wir am glybiau chwaraeon yn sicr. Dyma’r swydd sydd wrth y llyw yn y clwb ac mae’n arwain ei gyfeiriad yn y dyfodol.     

Sut byddwch chi’n elwa:   

  • Ymdeimlad o foddhad, cyflawni a rhoi’n ôl
  • Rôl allweddol yn eich cymuned
  • Cyfarfod llawer o bobl o gefndiroedd gwahanol
  • Cyfle i ddatblygu sgiliau
  • Datblygiad gyrfaol posib / gwella cyflogadwyedd
  • Potensial am hyfforddiant a chymwysterau newydd

I bwy fyddaf yn atebol?       

  • Pwyllgor y Clwb

Am bwy fyddaf yn gyfrifol?    

  • Holl aelodau’r pwyllgor

Yn ddelfrydol, mae’n rhaid i chi fod yn:

  • Arweinydd cadarn sy’n gallu bod yn wrthrychol
  • Hyderus ac yn gyfathrebwr da; gallu cynrychioli’r clwb mewn cyfarfodydd allanol
  • Gallu sicrhau bod cyfarfodydd yn rhedeg yn esmwyth ac yn effeithlon
  • Hawd siarad â chi gyda sgiliau gwrando da
  • Trefnus a mwy na pharod i ddirprwyo
  • Brwdfrydig a llawn cymhelliant

Beth fyddwch chi’n ei wneud:

  • Cadeirio cyfarfodydd y Pwyllgor a’r Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol
  • Llywio materion cyffredinol y clwb
  • Arwain y pwyllgor i wneud penderfyniadau er lles y clwb cyfan, gan gynnwys unrhyw faterion disgyblu
  • Cynrychioli safbwynt diduedd gan ganiatáu trafodaeth agored bob amser
  • Gennych chi fydd y bleidlais benderfynu os oes unrhyw fater na ellir gwneud penderfyniad yn ei gylch yn y clwb
  • Cynorthwyo Ysgrifennydd y Clwb i lunio pob agenda
  • Cynrychioli’r clwb mewn cyfarfodydd allanol, yn ôl yr angen
  • Rheoli a goruchwylio gwaith swyddogion a phersonél eraill y clwb
  • Cyflwyno adroddiad blynyddol y clwb yn y CCB

Faint o amser fydd yn ei gymryd?

  • Tua phump awr bob mis ar gyfer cyfarfodydd, ond bydd hyn yn dibynnu ar natur eich sefydliad/clwb chwaraeon.

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â:

(Nodwch fanylion cyswllt yma ar gyfer pwy bynnag sy’n arwain ar recriwtio’r Cadeirydd)