AAA
'Help i Glybiau a Gwirfoddolwyr Chwaraeon yng Nghymru '
Am Atebion Clwb

Am Atebion Clwb              

Yn rhedeg clwb neu sefydliad chwaraeon a ffansi help llaw? Meddyliwch amdanom ni fel eich siop un stop am arweiniad.      

Dryslyd am ba yswiriant rydych ei angen? Mewn picil ynghylch polisïau? Cymysglyd am gyllid?        

Os ydych chi’n glwb newydd sbon neu eisoes yn ffynnu gyda channoedd o aelodau, bydd ein canllawiau syml a’n dogfennau templed yn helpu i’ch cefnogi chi.                          

Os oes gennych chi unrhyw sylwadau neu adborth, byddem wrth ein bodd yn clywed gennych chi. Efallai nad ydym wedi ateb eich cwestiwn? Efallai bod ein cyfarwyddyd yn aneglur? Neu efallai eich bod yn meddwl ein bod wedi gwneud gwaith gwych?!

Wedi’r cyfan, i chi mae’r wefan yma ac rydyn ni eisiau gwneud yn siŵr ei bod mor syml â phosib ac yn gymaint o help â phosib.

Byddwn yn ychwanegu rhagor o gyfarwyddyd a dogfennau templed at y wefan dros amser, felly cofiwch ddod yn ôl i edrych ar y cynnwys. Neu gallwch ymuno â’n rhestr bostio ni i dderbyn gwybodaeth newydd.

 

Cliciwch i weld ein llyfryn ‘cipolwg’ i weld sut gall Atebion Clwb eich helpu chi ...